Cynulliad Cenedlaethol Cymru
29 Mai 2012
Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
ar gyfer y Bil Cyllid Llywodraeth Leol
1. Ar 29 Mai 2012, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4, i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Cyllid Llywodraeth Leol at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol er mwyn iddo ystyried y darpariaethau perthnasol ac adrodd yn ôl arnynt.
2. Yn unol â Rheol Sefydlog 29.5, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol adrodd yn ôl i’r Cynulliad erbyn 25 Mehefin 2012.